Amdanom ni

Croeso i CrysauTi.Cymru!

Cwmni argraffu sgrin Cymreig Cymraeg ar gyrion Caerdydd ydyn ni, yn dathlu’r Gymraeg, diwylliant a hunaniaeth Cymru drwy ein dyluniadau.

Mae ein dillad a’n hategolion yn adrodd straeon am Gymru—o dreftadaeth ac annibyniaeth i’r hiwmor, y lleoedd a’r bobl sy’n ein hysbrydoli.

Wedi’u sgrin-argraffu â llaw mewn garej yn Ne Cymru.

Dewch i weld ein dyluniadau a’n cydweithrediadau.